Ffermio.tv

Chloe Cropper – Cystadleuydd Ifanc

Mae Chloe Cropper o Bacup yn Swydd Gaerhirfryn yn 16 mlwydd oed a  hi oedd yr ieuengaf i gystadlu yn Nhreialon Cŵn defaid y Byd gynhaliwyd yn Llandeilo ym mis Medi 2008. Mae’n cael ei hyfforddi gan ei hewythr, Jim Cropper, sy’n enw adnabyddus yn y byd treialu cŵn defaid. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad yn hyfforddi a chystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd. 

Fe welais i gi defaid wrth ei waith am y tro cyntaf pan yn 12 mlwydd oed, ar fferm fy ewythr Jim. Ni allwn gredu pa mor astud roedd y ci yn gwrando ar alwadau Jimmy wrth symud o’u hamgylch yn ofalus dan alwad chwiban. Dyna’r adeg sylweddolais y byddai’n rhaid i mi fentro dysgu’r sgil wych yma. Dechreuais drwy fynd â chŵn bach allan i geisio casglu defaid, ond yn anffodus roeddwn i yn rhedeg fwy na’r defaid a’r cŵn gyda’i gilydd! Wedi blwyddyn o hyn, dywedodd Jimmy wrthyf am gael ci ifanc o’r enw Rap i’w gadw. Dyma oedd yr anrheg Nadolig orau erioed!

Fe ddysgais Rap gyda chymorth Jimmy a Shirley a rhedais yn fy nhreialon cyntaf pan roeddwn yn13 mlwydd oed â Rap ond yn ddeunaw mis. Pan ddaeth y cystadlaethau agored i’m rhan, nid oedd gennyf gi heblaw Rap, hyd nes i Shirley roi Roy i mi. Roedd Roy yn gi hynod ddeallus ac yn medru tawelu’r defaid wrth wrando’n astud bob amser. Mae bob amser yn trio’i orau, a phan aiff rhywbeth o’i le mewn cystadleuaeth, fy mai i yw hi ar y cyfan! Rwyf wedi bod yn rhedeg Roy ers dwy flynedd bellach ac mae wedi gwneud yn hynod o dda gan ennill deuddeg o dreialon a chael 33 o wobrau i gyd. Roy oedd y ci a ddefnyddiais yn Nhreialon Cŵn Defaid y Byd.


Er mwyn paratoi Roy ar gyfer Treialon y Byd, ceisiais godi ei lefelau ffitrwydd drwy adael iddo redeg gyda’r beic, ond ni redais ef yn ormodol gyda’r defaid rhag rhoi gormod o bwysau arno. Er hyn fe wnes i ymarfer rhai ymarferion yn fwy aml. Er mwyn paratoi fy hun, ceisiais ymarfer gyda chŵn eraill er mwyn i mi gael gweld fy nghamgymeriadau yn amlycach.




Mae’n arswydus meddwl fy mod wedi bod yn Nhreialon cŵn defaid y Byd o ystyried mai dim ond ers 3 mlynedd yr wyf wedi bod yn cystadlu. Teimlaf yn hynod lwcus gan fod rhai cystadleuwyr wedi bod wrthi am llawer hirach ac wedi methu cyrraedd y safon yma. Felly, fe geisiais i fy ngorau glas, fel pob un arall; wedi’r cyfan, fe all unrhywbeth fynd o’i le ar y cae!

Cefais brofiadau bythgofiadwy yn y treialon ac, er nad aeth popeth fel y mynnwn, roeddwn yn bles gyda’r canlyniad ac mi weithiaf yn galetach ar gyfer y tro nesaf.

Roedd gwylio’r treialon yn wefr i mi. Roedd gweld y cystadleuwyr gorau o wledydd arall yn wych ac roedd y safon yn y rownd cyn derfynol a’r terfynol y gorau rwyf erioed wedi’i weld. Rwyn siwr bydd fy mhrofiad o weld y cyfan yn gymorth mawr i mi at y dyfodol. Edrychaf ymlaen i weld canlyniad 2011!