Ffermio.tv

Mererid wigley ffermio presenter
Mererid Wigley 

Magwyd Mererid Wigley ar Fferm Rhosdyrnog, Talywern ger Machynlleth, ac fe gafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Glantwymyn ac yna'n Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi. Bu'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi a bu'n cystadlu'n Rali'r Sir, y Sioe Amaethyddol a'r Eisteddfod.

Ymddiddorodd mewn ysgrifennu creadigol tra'n aelod o'r clwb, ac fe enillodd gadair Eisteddfod Sir y Ffermwyr Ifanc dair blynedd yn olynol, pan yn 17, 18 ac 19 oed. Fe barhaodd y diddordeb ysgrifennu tra'n y Brifysgol ym Mangor lle bu'n astudio Llenyddiaeth Gymraeg a Llên y Cyfryngau. Tra yno, fe gafodd gyfle hefyd i weithio'n achlysurol i'r BBC, ar y rhaglenni radio i bobl ifanc, Y Doctor Newyddion ac Y Profiad ac yna, yn cyflwyno'r bwletinau newyddion lleol o Aberystwyth.

Ar ôl tair blynedd yn y Coleg, fe symudodd i lawr i'r Brifddinas i wneud cwrs ôl-radd mewn newyddiaduraeth ddarlledu, ac wedi hynny, fe ymunodd ag Adran Newyddion y BBC. Bu'n gweithio am gyfnod byr ar y rhaglen deledu Newyddion cyn ymuno â thîm Ffeil, y rhaglen newyddion i blant, lle treuliodd chwe blynedd yn gohebu a chyflwyno ac, wrth gwrs, yn cwrdd â channoedd o blant dros Gymru gyfan! Fe wfftiodd y cyngor i beidio â gweithio gyda phlant nag anifeiliaid pan ymunodd â thîm Ffermio yn Ionawr 2005!

Galeri lluniau

Galeri Mererid Wigley (10, llun)

Cystadleuaeth llun teulu

Cyhoeddi'r enillydd! Dewch i weld pwy fu'n fuddugol yn ein cystadleuaeth...