Ffermio.tv

Hygyrchedd

Er mwyn gwneud y wefan hon mor hygyrch i gynifer o bobl ag y bo modd, fe’i crewyd gan ddefnyddio canllawiau safonau gwe a hygyrchedd gwe arfer gorau.  Mae hyn nid yn unig yn sicrhau bod y wefan yn gweithio ym mhob dyfais bori fodern, yn seiliedig ar safonau, ond mae hefyd yn golygu bod y wefan yn haws i’r rheiny sydd ag anabledd ei defnyddio.  

Mae sefydliad safonau’r Rhyngrwyd (Consortiwm y We Fyd Eang neu W3C) yn cyhoeddi safonau a chanllawiau gyda’r bwriad o sicrhau twf yn y tymor hir ar gyfer y We.  Fel rhan o’r cylch gwaith hwn, maent wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer datblygu gwefannau hygyrch sy’n cael eu hadnabod fel Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We neu WCAG.

Lle bo modd, crewyd y wefan i gydymffurfio â holl bwyntiau gwirio WCAG Blaenoriaeth 1 a Blaenoriaeth 2 wrth geisio mynd i’r afael â llawer o bwyntiau gwirio Blaenoriaeth 3.