- Ffermio.tv:
- Hafan
- >
- Blog
- >
- Ynglyn â Ffermio
- >
- Meddyliwch yn bositif!
Rydw i yn un o'r ffermwyr ifanc prin hynny mae cymaint o son amdanynt y dyddiau yma, gan fy mod wedi dychwelyd adre ar ôl gorffen Coleg gyda'r bwriad o barhau i amaethu nes i mi fynd yn hen.
Er fy mod yn cytuno, i raddau helaeth, gyda safbwyntiau fy nghyd-ysgrifennwyr ynglyn â sefyllfa druenus amaethyddiaeth yn gyffredinol, teimlaf bod angen tynnu sylw at rai o'r pethau da sydd ynglwm ag amaethyddiaeth a bywyd cefn gwlad - pethau sydd yn cael eu cymeryd mor ganiataol.
Mae pawb yn sôn am y wasgfa ariannol bresennol, ac ydi, mae'r blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn her i unrhyw fusnes, ond mae ‘na un peth sydd o'n plaid ni'r ffermwyr, sef y tir o dan ein traed, y potensial i fwydo'r teulu oddi ar y tir. Mae'n bosib cael llaeth o'r fuwch a gwneud menyn a chaws; cynyrchu pob math o gig megis porc, eidion, cig oen a thwrci; cael wyau drwy gadw ambell iar ar y clos; tyfu grawn i fwydo'r anifeiliaid a thyfu pob math o lysiau a ffrwythau... Mae'r posibiliadau yn ddi-ddiwedd. Does gan neb sy'n byw ac yn gweithio mewn dinas yr opsiynnau yma. Mae sylw mawr yn cael ei roi ar hyn o bryd ar fod yn hunan-gynhaliol. Os oes unrhywun yn mynd i oroesi dirwasgiad, neu ryfel o bosib, yn y byd sydd ohoni, yna ni'r ffermwyr fydd y rheiny.
Does ‘na ddim amheuaeth, yn fy marn i, taw cefn gwlad Cymru yw'r lle gorau i fyw, a digon hawdd i'w gweld pam. Edrychwch ar y nifer fawr o bobol sy'n symud o'r dinasoedd yma i fyw, ac yn prynu tyddynod ‘rhad' cefn gwlad. Mae'n amlwg eu bod yn chwilio am amgenach ffordd o fyw.
Er, mae'n rhaid i mi gyfaddef, nad oes gen i lawer o feddwl am agwedd a dealltwriaeth ein gwleidyddion tuag at amaethyddiaeth dros y ddegawd diwethaf, rhaid i mi godi fy nghap i'n Gweinidog Amaeth presennol, Elin Jones. Rwy'n credu ei bod wedi gwneud gwahaniaeth mawr ers dod i'r swydd a braf gweld rhywun sydd â dealltwriaeth o'n sefyllfa ni yng nghefn gwlad yn y swydd. Rydym ni mewn tipyn gwell sefyllfa ar yr ochr hon o Glawdd Offa, wrth ystyried materion megis y taliad sengl a chanllawiau trawsgydymffurfio, taliadau iawndal y Dicïau a'r camau sy'n cael eu datblygu i reoli'r clefyd. Braf yw gweld ein cymdogion yn genfigennus ohonom ni am unwaith.
Gobeithio fy mod wedi tynnu eich sylw at rai o'r pwyntiau calonogol sydd ynglwm ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru ar hyn o bryd, er, wrth gwrs, mae angen datblygiad pellach i sicrhau dyfodol llewyrchus. Mae sefyllfa amaeth yn gwella, gyda phrisiau eidion yn uchel a phrisiau wyn a llaeth yn sefydlog, ond mae angen i'r twf yma barhau er mwyn sicrhau nad ydi'r elw'n cael ei lyncu gan gostau uwch tanwydd, cwrtaith a dwysfwyd. Rwy'n sicr bydd y prinder bwyd amlwg sydd yn ein byd yn cael effaith ar y galw am ein cynnyrch, gan godi prisiau, a gwneud i bawb sylweddoli ein gwerth ni fel ffermwyr.
Dweud eich dweud
Beth am wneud sylw ar yr erthygl uchod?
