- Ffermio.tv:
- Hafan
- >
- Blog
- >
- Bywyd Gwledig
- >
- Pam bod ffermio'n cyfri
Mae adroddiad diweddar yn dangos bod 72% o siopwyr eisiau prynu cig oen ac eidion Prydeinig, ac mae 80% yn credu y dylai'r archfarchnadoedd fod yn deg â ffermwyr.
Er mwyn atgyfnerthu cefnogaeth prynwyr, mae NFU Cymru yn cydweithio gyda Hybu Cig Cymru; y Townswomen's Guild; Undeb Bwyd a Ffermio'r Menywod; Cyngor Cenedlaethol y Menywod a'r Farmers Guardian, i hyrwyddo ymgyrch "Pam bod ffermio bîff a defaid yn cyfri", sydd wedi'i anelu at godi ymwybyddiaeth o'r argyfwng cyfredol sy'n wynebu'r sector ac i annog pobl i fwyta cig Cymreig.
Mae'r ymgyrch yn galw am bris teg i ffermwyr bîff a defaid, sy'n cynhyrchu'r cig o'r ansawdd gorau yn y byd, ac mae mwy o alw amdano gan brynwyr nag erioed o'r blaen. Ond os na fydd y pris wrth giât y fferm yn cynyddu, efallai y bydd yn rhaid defnyddio cig wedi'i fewnforio i wneud prydau Cymreig fel y cinio dydd Sul traddodiadol neu gawl.
A gyda niferoedd ffermwyr bîff a defaid yn gostwng yn ystod y deng mlynedd diwethaf, ni fydd prynwyr yn gallu prynu cynnyrch Cymreig, ac fe fydd y tirlun yn dioddef o ganlyniad, gyda thirweddau ar yr ucheldir fel yr Wyddfa mewn perygl yn sgil diffyg pori a diffeithdra amaethyddol.
Mae'r sefyllfa yn fregus - mae ffermwyr yn cynhyrchu cig eidion ac oen ar golled a dydy hyn, yn syml, ddim yn gynaliadwy. Gostyngodd prisiau ŵyn y llynedd, ond codi wnaeth prisiau'r archfarchnadoedd. Dydy hynny, yn syml, ddim yn dderbyniol.
Gall prynwyr sydd eisiau dangos eu cefnogaeth:
** brynu cig oen ac eidion Cymreig, yn lleol lle bo modd, ac edrych am y marciau ansawdd Cig Oen ac Eidion Cymreig;
*** gofyn i'ch archfarchnadoedd beth y maen nhw'n ei wneud i sicrhau dyfodol cynaliadwy i ffermwyr bîff ac eidion.
Dweud eich dweud
Beth am wneud sylw ar yr erthygl uchod?
1 Ymateb i "Pam bod ffermio'n cyfri"
Be ddiawl ma'r undebau ac hcc yn gwneud ond mynd ag arian ffermwyr? Oes na dystioleth bod nhw'n cael dylanwad ar yr archfarchnadoedd? Dim ****** owns o ddylanwad. Mae prisiau'r flwyddyn ddiwetha' ma wedi dangos hynny'n blaen. Unwaith daeth Traed a'r Genau ac yna y Tafod Glas ( a mae rhaid gofyn y cwestiwn sut daeth rhain i'r amgylchedd?) fe gwmpodd y pris i ni'r ffermwyr dros nos. Dylanwad yr undebau a HCC - DIM. Nawr mae stoc mwy prin a hyn yn unig oherwydd fod wyn o Seland Newydd yn brin yna mae'r pris wedi codi - ond fi'n siwr pobl y siwtiau yn Aberystwyth a Llanelwedd yn "chest" i gyd am eu gwaith rhagorol yn achub y diwydiant unwaith eto. Diolch am ddim byd! A beth am bris gwrtaith. Dros £300/t a tro hyn Tsieina sy'n cael y lach, falle mae fi sy'n granc ond pan mae'r llywodraeth yn gadael i'r ddau gwmni fertilizer mwyaf i uno, a cael gwared o bob cystadlaeth yna oes na falle siawns fod y cwmni mawr yma yn dwyn mantes? Na byth, dim ond cwmnioedd laeth fydde'n gwneud pethe felna!!! Felly digon teg i Dai Davies ( ac mae parch mawr 'da fi at Dai) i sôn am addysgu'r cyhoedd ond y gwir yw tra bod na gwmnioedd enfawr yn rheoli dros bob rhan o'r diwydiant a rhain yn cael ffafriaeth gan y llywodraeth yna cost yw'r sefydliadau hefyd.
