Cystadleuaeth Trelars 2008
Mae’n dymor yr hydref ac mae hynny’n golygu ei bod hi’n gyfnod ein cystadleuaeth fawr flynyddol. Unwaith eto eleni, mae ganddon ni wobrau gwerth chweil i chi – 3 threlar arbennig – i gyd yn rhoddedig gan gwmni treilars Ifor Williams - www.iwt.co.uk.
Yn wobr gyntaf, mae’r trelar cludo ceffyl HB506, gwerth £4000; yn ail, y trelar cludo anifeiliaid TA5 gwerth £3000 ac yn drydydd wobr, mae’r trelar P5 gwerth £950.
![]()
Gofynion y gystadleuaeth
Rhwng Medi a Thachwedd 2008, bu tîm Ffermio'n gofyn cwestiwn gwahanol bob wythnos. Roedd llythyren gyntaf pob ateb, o'u hail-drefnu yn sillafu gair chwe llythyren.
![]()
Fe gyflwynir y gwobrau yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd a gynhelir 1 a 2 Rhagfyr 2008.
Cysylltir â’r enillwyr erbyn dydd Gwener 28 Tachwedd 2008. Mae manylion llawn y rheolau ar gael drwy glicio yma. Pob lwc!
Dyma'r cwestiynau eleni:
1. Gêm y gamp lawn? Ateb: Rygbi
2. Bocs sgwar plasma yng nghornel ystafell? Ateb: Teledu
3. Anifail sydd â chôf hir a chlustiau mawr? Ateb: Eliffant
4. Gemau anferth gynhaliwyd yn Beijing eleni? Ateb: (Gemau) Olympaidd
5. Darn o dir o flaen y ty sydd angen ei dorri'n gyson? Ateb: Lawnt
6. Blodyn sy'n cael ei wisgo ar Sul y Cofio? Ateb: Pabi
Y gair chwe llythyren cywir oedd: PETROL
Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
Her...
Ym mis Medi 2009, bu aelodau o ffermwyr ifanc Maldwyn...
