Gêm newydd Ffermio!
Lansiodd y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones A.C. gêm newydd ar gyfer y wê o'r enw FLEECED ar stondin Ffermio yn y Sioe Frenhinol ddydd Llun Gorffennaf 21 am 2:00pm.
Mae'r gêm a grewyd gan Wiresprite a Telesgop wedi cael ei chynhyrchu er mwyn lansio darllediad Telesgop o Dreialon Cwn Defaid y Byd i S4C. Mi fydd y digwyddiad rhyngwladol hwnnw yn cael ei gynnal ym Mharc Dinefwr, Llandeilo rhwng yr Medi 11 - 14 eleni. mae mwy o fanylion am y digwyddiad ar gael ar wefan y treialon drwy glicio yma.
Wiresprite yw'r enw ar bum myfyriwr graddedig disglair a fu'n dilyn cwrs Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Metropolitaidd Abertawe. Gwnaeth Dyfrig Davies, Cyfarwyddwr Rheolaeth cwmni Telesgop gyfarfod â'r myfyrwyr tra roedd yn y Coleg yn chwilio am dalent newydd i Telesgop. "Roeddwn wedi fy mhlesio gyda safon eu gwaith, yr elfen o hwyl a oedd yn y gêm roedden nhw'n gweithio arno ar y pryd ac agwedd bositif y myfyrwyr. Ro'n i'n gwybod y bydden nhw'n griw gwych i gyd-weithio gyda nhw".
Mae'r gêm FLEECED yn cynnwys tair lefel. Bwriad y gêm yw defnyddio ci rhith er mwyn gyrru'r defaid i mewn i'r lloc (yn debyg iawn i dreialon cwn defaid). Mae lefel un wedi ei leoli ar gaeau gwyrdd yng Nghymru ond mae'r ail lefel â thema rhyngwladol ac wedi ei leoli yn Efrog Newydd, tra bod y trydydd lefel yn ein mynd â ni i Norwy. Y mwyaf o ddefaid rydych yn cneifio ac yn eu cael i'r lloc - yr uchaf bydd eich sgôr.
Bydd y gêm ar gael i'w chwarae am ddim ar wefan Ffermio o Awst 1 eleni. "Mae'r sialens yn mynd yn anoddach wrth i'r gêm fynd yn ei blaen - a does dim llawer o bobl sydd wedi chwarae'r gêm wedi llwyddo ar y drydedd lefel!" meddai Darren Adams o Wiresprite - un o gynhyrchwyr y gêm.
Cystadleuaeth y Trelars 2010
Gwyliwch y gyfres newydd o Ffermio i gael cyfle i ennill un o 3 trelar...
Y pôl piniwn diweddara’
Ydych chi am fynd i Sioe Frenhinol Cymru eleni?

