Croeso i Gwrando!
Yn yr adran hon bydd cyfle i chi glywed pob math o raglenni diddorol o ddigwyddiadau gwahanol led led Cymru.
Bydd y cyflwynydd Terwyn Davies yn ein tywys ni i rai o Raliau Sirol Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, sioeau a digwyddiadau eraill.
Os hoffech chi i Ffermio ymweld â'ch digwyddiad chi, yna cofiwch gysylltu â ni naill ai ar y ffôn ar 01792 48 57 25 neu drwy anfon e-bost at ffermio@ffermio.tv - gan ddweud pam ddylai'ch digwyddiad chi gael sylw ar y wefan hon!
Yn yr ail raglen, mae Terwyn Davies ar ymweliad â Rali CFFI Ceredigion a gynhaliwyd ar Fferm Pantydefaid, Prengwyn ger Llandysul ddydd Sadwrn 7 Mehefin 2008.
Gwrandewch ar Rali CFFI Ceredigion 2008 (Maint ffeil: 19MB mp3)
Gwrandewch ar Rali CFFI Sir Gâr 2008 (Maint ffeil: 19MB mp3)
Bydd angen Windows Media Player i wrando. Lawrlwythwch hwn yma.
I lawrlwytho'r rhaglenni unigol i'ch cyfrifiadur, cliciwch botwm dde'r llygoden a dewis "Save target as...."
Mwynhewch y gwrando!
Galeri lluniau
Rali CFFI Ceredigion 2008 (17, llun)
Her...
Ym mis Medi 2009, bu aelodau o ffermwyr ifanc Maldwyn...
Cystadleuaeth y Trelars 2010
Gwyliwch y gyfres newydd o Ffermio i gael cyfle i ennill un o 3 trelar...
