Ffermio.tv

Polisi Preifatrwydd Telesgop

Pwy ydym ni

Yn y polisi preifatrwydd hwn, mae "ni" ac "ein" yn cyfeirio at gwmni Telesgop. Mae "ein Gwefan" neu'r "Wefan" yn cyfeirio at www.ffermio.tv.

Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a sut

Gallai'r wybodaeth a gasglwn trwy'r Wefan gynnwys:

Unrhyw fanylion personol yr ydych yn eu rhoi i ni yn fwriadol trwy ffurflenni a'n e-bost, fel enw, cyfeiriad, rhif ffôn, ac ati.

Er mwyn prosesu trafodion cerdyn credyd neu ddebyd yn effeithiol, efallai y bydd angen i'r banc neu'r asiantaeth sy'n prosesu'r cerdyn wirio'ch manylion personol i'w hawdurdodi y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Ni fydd gwybodaeth o'r fath yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r AEE at unrhyw ddiben arall.

Eich dewisiadau a'ch defnydd o ddiweddariadau e-bost, a gofnodir trwy negeseuon e-bost yr ydym yn eu hanfon atoch (os ydych yn dewis cael diweddariadau e-bost ar gynhyrchion a chynigion).

Eich Cyfeiriad IP, sef cyfres o rifau sy'n unigryw i'ch cyfrifiadur a gofnodir gan ein gweinydd gwe pan fyddwch yn gofyn am gael gweld unrhyw dudalen neu ran ar y Wefan. Defnyddir y wybodaeth hon i fonitro'ch defnydd o'r Wefan.

Data a gofnodir gan y Wefan sy'n ein galluogi i'ch adnabod a'ch hoff osodiadau. Mae hyn yn eich arbed rhag ail-gofnodi gwybodaeth pan fyddwch yn troi at y safle eto. Caiff data o'r fath ei gofnodi yn lleol ar eich cyfrifiadur trwy ddefnyddio cwcis. Gellir rhaglennu'r rhan fwyaf o borwyr i wrthod, neu eich rhybuddio cyn lawr lwytho cwcis. Ceir gwybodaeth am hyn yng nghyfleuster 'cymorth' eich porwr.

Beth rydym yn ei wneud â'ch gwybodaeth

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn oddi ar y wefan hon yn cael ei defnyddio yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a deddfau perthnasol eraill. Bydd y manylion a gesglir gennym yn cael eu defnyddio:

I brosesu'ch archeb, i ddarparu gwasanaeth ar ôl gwerthu (efallai y byddwn yn rhoi eich manylion i sefydliad arall i gyflenwi/dosbarthu cynhyrchion neu wasanaethau yr ydych wedi'u prynu a/neu i ddarparu gwasanaeth ar ôl gwerthu);

Mewn achosion penodol, efallai y byddwn yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost i anfon gwybodaeth atoch am ein cynhyrchion a'n gwasanaethau eraill. Mewn achos o'r fath, byddwch yn cael cynnig dewis parhau/tynnu'n ôl cyn cwblhau eich pryniant.

Efallai y bydd angen i ni roi'r wybodaeth a gasglwn i gwmnïau eraill at ddibenion gweinyddol. Gallwn ddefnyddio trydydd parti i ymgymryd â gweithgareddau penodol, fel prosesu a threfnu data, monitro'r modd y mae cwsmeriaid yn defnyddio'r Wefan a chyhoeddi ein negeseuon e-bost i ni. Ni chaniateir i drydydd parti ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ei ddiben ei hun.

Eich Hawliau

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi ar hyn o bryd. Er mwyn cael gwybodaeth o'r fath, anfonwch eich manylion cyswllt gan gynnwys eich cyfeiriad a thaliad o £10 ar gyfer costau gweinyddu i'r cyfeiriad canlynol:

    Preifatrwydd
    Telesgop
    Uned 6
    Technium - SA1
    Heol y Brenin
    Y Dociau
    Abertawe
    SA1 8PH
    Cymru

Gwefannau Eraill

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn ymwneud â'r wefan hon yn unig. Mae gan unrhyw wefannau eraill y gellir cysylltu â hwy trwy ein gwefan ni eu polisi eu hunain, a gallai fod yn wahanol i'n polisi ni.