Gwylio Ffermio
Y rhaglen ddiweddara'
Ers ei lansio yn 1997 mae Ffermio, yr unig gyfres deledu ym Mhrydain sy'n delio'n benodol â materion amaethyddol, wedi darparu gwasanaeth gwerthfawr i ffermwyr. Mae brand Ffermio'n cynnwys rhaglen wythnosol ar S4C a Bwletin newyddion a thywydd ddwy waith yr wythnos ar S4C Digidol. Mae'r gyfres yn cyflwyno gwybodaeth fanwl ar y byd amaethyddol, yn ogystal â phynciau o ddiddordeb ehangach. Mae Ffermio'n parhau i ddarparu fforwm cyfoes ar gyfer ffermwyr a materion amaeth ac i gwestiynu gwleidyddion ac arweinwyr yr undebau ynglyn â newidiadau sy'n effeithio ar y diwydiant. Fodd bynnag, mae hefyd yn trin a thrafod pynciau gwledig mewn ffordd sy'n apelio at y gynulleidfa drefol a gwledig gyffredinol, sy'n ymddiddori ym mywyd cefn gwlad.
Mae'r Bwletinau Ffermio yn cynnwys manylion cynhwysfawr ar ddeddfwriaeth a phrisiau'r farchnad er enghraifft, sy'n caniatáu eitemau hirach yn y rhaglenni hanner-awr ar bynciau o ddiddordeb ehangach fel bwyd organig, trafnidiaeth, iechyd a chartrefi mewn ardaloedd gwledig a phortreadau o gymeriadau cefn gwlad o bob oed a chefndir. Mae Tywydd Ffermio, sy'n dilyn y bwletinau, yn cynnwys elfennau newydd fel tymheredd y tir yn ogystal â thywydd manwl ar gyfer pum diwrnod.

