29/09/2008 - Llwybr Arfordir Ceredigion, Llety Cynin ac Aled Wyn Davies
Yn y rhaglen hon o Ffermio:
Yn rhaglen gynta'r gyfres, fe fydd Alun Elidyr yng Ngheredigion yn cael golwg ar y llwybr arfordirol newydd. Fe fydd yn siarad â Warden y llwybr am y gwaith o'i baratoi.
Fe fydd Iola Wyn yn San Clêr yn cwrdd â Dyfrig ac Elizabeth Davies sydd wedi mentro arallgyfeirio ac wedi creu canolfan hamdden ar eu fferm odro.
Fe fydd Mererid Wigley ym mhen draw Sir Benfro yn edrych ar sefyllfa'r ymwelwyr yno a'u llwybr arfordirol hwythau, a Daloni Metcalfe yn Llanbrynmair yn cwrdd â ffermwr sy'n cyfuno amaeth gyda chanu. Mae Aled Wyn Davies yn denor o fri ac yn gyfarwydd iawn ar lwyfannau Eisteddfodau Cymru.


