12/05/2008 - Trebor Edwards, geifr a'r Pumpkin Patch

 

Iola Wyn sy'n cyflwyno rhaglen yr wythnos hon o ysgol goginio a garddio'r Pumpkin Patch yn Felinwen ger Caerfyrddin.

Lisa Fearn sy'n cynnal y gwersi ar ei fferm bob dydd Sadwrn, ac mae plant o bob cwr o Sir Gaerfyrddin a thu-hwnt yn teithio yno er mwyn dysgu am darddiad bwyd, a'r hyn sy'n gallu cael ei wneud â'r bwyd. Os am fwy o fanylion am y Pumpkin Patch, ewch draw i'r wefan drwy glicio yma neu drwy ffonio Lisa Fearn ar 01267 290 312.

Bydd Daloni Metcalfe yn ymweld â Llywydd Sioe Frenhinol Cymru am eleni sef Trebor Edwards, ar ei fferm ym Metws Gwerfyl Goch, wrth iddo edrych ymlaen am flwyddyn brysur iawn o godi arian tuag at y sioe ym mis Gorffennaf. Cawn glywed am ei obeithion ar gyfer y sir am y flwyddyn, a'r ymgyrchoedd codi arian hyd yma.

Os am fwy o wybodaeth ar Sir Clwyd a'r digwyddiadau sydd wedi'i trefnu i godi arian, yna ewch draw i'r wefan sef Clwyd Royal Welsh drwy glicio yma.

Teithio i Faesteg y mae Alun Elidyr yr wythnos hon gan ymweld â Trystan Griffiths sy'n gweithio fel Darlithydd Anifeiliaid yng Ngholeg Pencoed. Mae teulu Trystan hefyd yn ffermio yn ardal Llangynwyd lle maen nhw'n cadw defaid a gwartheg.

A bydd Iola hefyd yn edrych ar y diwydiant geifr yng Nghymru. Bydd yn ymweld â Lorraine a Mike Makowski-Heaton sy'n godro 200 o eifr bob dydd ar ei fferm yn Nhalychyllau ger Llandeilo.