Ffermio.tv

Cliciwch ar y dolenni ar y dde i wylio'r rhediadau...

1. Aled Owen 644 pwynt 

Aled Owen yw Pencampwr Treialon Cwn Defaid y Byd 2008 yn Llandeilo. Fe ddaeth i’r brig gyda’i gi Roy gyda  644 o bwyntiau, un pwynt merit yn unig o flaen ei gystadleuydd agosaf.  Mae’r ffermwr o Gorwen yn hen law ar gystadlu mewn treialon ac ar ddod i’r brig. Aled enillodd Dreialon Cwn Defaid y Byd yn y Bala yn 2002.

2.Ron Snoeck 643 pwynt 

Fe ddaeth Ron Snoeck o’r Iseldiroedd yn ail agos i Aled Owen yn Nhreialon 2008 gyda’i ast 6 blwydd oed Nell. Dim ond un pwynt merit oedd rhyngddo â’r enillydd – 643. Dyma’r trydydd tro iddo gystadlu yn Nhreialon y Byd ac mae wedi ennill Pencampwriaeth Cyfandirol ddwywaith a Phencampwriaeth Rhyngwladol yr Iseldiroedd deirgwaith, dwywaith gyda Nell.

3. Stuart Davidson 623 pwynt 

Stuart Davidson yn cynrychioli’r Alban oedd yn y trydedd safle gyda 623 o bwyntiau. Roedd yn cystadlu gyda’i gi 5 blwydd a hanner Jim. Mae Stuart sy'n 60 mlwydd oed yn hen gyfarwydd â threialu gan ei fod wedi ennill Pencampwriaeth yr Alban 5 gwaith yn y gorffennol a’r Bencampwriaeth Rhyngwladol ddwywaith. Fodd bynnag, dyma’r Treialon y Byd cyntaf iddo gystadlu ynddo.

4. James McGee 599 pwynt

Capten tîm Iwerddon eleni, James McGee, ddaeth yn bedwerydd eleni gyda 599 o bwyntiau gyda’i ast 5 mlwydd a hanner Becca. Mae James yn dod o Creggan ger Donegal yng Ngweriniaeth Iwerddon ac wedi ennill Pencampwriaeth Iwerddon ddwywaith, yn 2005 a 2007 ac yn ail yn 2006.

5. Aiden Gallagher 595 pwynt

Roedd Aiden Gallagher o’r Iwerddon yn cystadlu gyda’i gi 9 blwydd oed Bill ac fe ddaeth yn bumed yn y rownd derfynol gyda 595 o bwyntiau. Mae’r ffermwr defaid yn gyn-enillydd Pencampwriaeth Treialon Cwn Defaid Iwerddon.

6. Meirion Jones 589 pwynt


Y Cymro lleol o Faesybont ger Llandeilo, ddaeth yn chweched yn y Treialon gyda 589 o bwyntiau. Roedd yn cystadlu gyda’i gi Joe. Mae’r contractwr wedi bod yn weithgar iawn gyda’r paratoadau ar gyfer y Treialon yn rhinwedd ei swydd fel  Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

7. Karin Mattsson 570.5 pwynt 

Yr unig wraig i gyrraedd y rownd derfynol, Karin Mattsson o Norwy gipiodd y seithfed safle gyda 570.5 o bwyntiau gyda’i ast 7 blwydd a 7 mis Sammie. Mae Karin yn wreiddiol o Sweden ond fe gwrddodd ei chariad drwy’r treialon cwn defaid a symud ato i Norwy. Mae yntau hefyd wedi bod yn cystadlu yn y Treialon yn Llandeilo. Mae Karin wedi bod yn rhedeg cwn defaid ers yn 11 mlwydd oed.

8. Tony Ottesen 569 pwynt 

Tro Denmarc i wneud eu marc; fe ddaeth Tony Ottesen yn wythfed gyda 569 o bwyntiau. Roedd yn cystadlu gyda’i gi 4 blwydd a hanner, Bob. Mae’r ci yn fab i gi Serge Van Der Zweep oedd yn cynrychioli’r Iseldiroedd yn y Treialon ac ast Aled Owen. Eleni’n barod, mae Tony wedi ennill Pencampwriaeth Scandinafia.