Cliciwch ar y dolenni ar y dde i wylio'r rhediadau....
9. David John Wood 561.5
David John Wood ddaeth i’r brig o dîm Lloegr yn gorffen yn y nawfed safle gyda 561.5 o bwyntiau gyda’i ast Moe.
10. Kevin Evans 549
Roedd Kevin Evans o Libanus, Aberhonddu, wedi cyrraedd y rownd derfynol ddwywaith. Fe ddaeth yn ddegfed gyda 549 o bwyntiau pan yn cystadlu gyda’i gi 4 blwydd oed Spot. Yr adeiladwr 27 mlwydd oed enillodd Bencampwriaeth y Treialon Rhyngwladol yn Abergele yn gynharach ym mis Medi.
11. Gethin Jones 542
Gethin Jones o Langollen yn cynrychioli Cymru ddaeth yn 11eg yn y tabl gyda 542 o bwyntiau gyda’i ast 5 mlwydd a 9 mis Eira. Dyma’r Treialon Cwn Defaid y Byd cyntaf i’r ffermwr 22 mlwydd oed gystadlu ynddynt.
12. Kevin Evans 503
Dyma’r ail dro i Kevin Evans o Libanus, Aberhonddu, gyrraedd y rownd derfynol. Fe ddaeth yn 12fed yma gyda 503 o bwyntiau, y tro hwn gyda’i gi 4 blwydd oed Mirk.
13. Nigel Watkins 496
Un arall o Gymru, Nigel Watkins o Langadog, ddaeth yn 13eg yn y rownd derfynol gyda 496 o bwyntiau gyda’i ast 7 blwydd a 6 mis oed Floss. Fe ddaeth Nigel yn ail agos ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2002 gyda Peg; fe gollodd y brif safle o hanner pwynt yn unig! Mae hefyd wedi ennill Pencampwriaeth Cymru ddwywaith ac wedi dod yn ail ddwywaith. Roedd yn dathlu’i ben-blwydd ar ddiwrnod rownd derfynol y Treialon a’i ddefaid ef oedd yn cael eu defnyddio yn y digwyddiad.
14. Richard Millichap 453
Yr olaf o’r saith Cymro ymddangosodd yn y rownd derfynol, Richard Millichap o’r Rhondda, ddaeth yn 14eg yn y tabl gyda 453 o bwyntiau gyda’i gi 8 blwydd a 7 mis oed Taddymoor Cap. Mae’r ffermwr wedi dod yn ail ddwywaith yn y Treialon Rhyngwladol ac wedi ennill y gystadleuaeth deledu ‘One Man and his Dog’ yn 2001.
15. Ged Watson 383
Ged Watson o Loegr ddaeth yn 15ed gyda’i gi 7 blwydd oed Eryri Rock. Fe gafodd 383 o bwyntiau. Dyma’r tro cyntaf iddo gystadlu yn Nhreialon Cwn Defaid y Byd. Fe fyddai wedi gallu dewis cystadlu dros Gymru gan ei fod yn treulio 6 mis o’r flwyddyn yn Nyfnaint yn gofalu am gŵn hela a’r 6 mis arall yn Aberhonddu yng Nghymru!
16. Jim Wilson 336
Jim Wilson o Seland Newydd ddaeth yn 16eg yn y Treialon gyda 336 o bwyntiau gyda’i gi Tweed.
