![]()
Ar Fedi’r 11eg – 14eg eleni cynhaliwyd Gŵyl arbennig ym Mharc Dinefwr ger Llandeilo - Treialon Cŵn Defaid y Byd. Denwyd 240 o gwn defaid a’u bugeiliaid o 22 o wledydd gan gynnwys Brasil, Awstralia, Seland Newydd, Awstria, De Affrig a Chanada i'r digwyddiad.
Fel gyda phob cystadleuaeth arall, bu misoedd o baratoi a, dros gyfnod o bedwar diwrnod, bu pob bugail yn canolbwyntio ac yn brwydro’n ffyrnig am deitl Pencampwr y Byd. Wrth reswm, mae’r cŵn i gyd oedd yn cystadlu yn brofiadol iawn yn hel ac yn gweithio defaid bob dydd adref ar y fferm. Ond, o dan bwysau ar y dydd, mae'n fater gwahanol! Pa gi, pa fugail a pha wlad felly gipiodd teitl y Pencampwr?
I wybod mwy, gwyliwch rhaglen uchafbwyntiau arbennig yn edrych ar holl uchafbwyntiau’r paratoadau a’r cystadlu o Ŵyl Treialon Cŵn Defaid y Byd ddarlledwyd ar S4C ar yr 22ain o Fedi. I'w gwylio, cliciwch yma neu ar 'Gwylio rhaglen uchafbwyntiau' yn y fwydlen ar ochr dde'r sgrin.
Hefyd, mae pob un o’r rhediadau yn y rownd derfynol a rhai o rediadau'r rownd gyn deryfnol ar gael i’w gwylio’n llawn yma ar y wefan. Eto, cliciwch ar y fwydlen ar ochr dde'r sgrin i wylio rhai ohonynt.