Ffermio.tv

Cliciwch ar y dolenni ar y dde i wylio'r rhediadau. Bydd mwy o rediadau'r rownd gynderfynol yn cael eu hychwanegu yma yn ystod yr wythnos.... 
 

1.    Aiden Gallagher 410

Roedd Aiden Gallagher o’r Iwerddon yn cystadlu gyda’i gi 9 blwydd oed Bill ac fe ddaeth yn gyntaf yn y rownd gyn- derfynol gyda 410 o bwyntiau. Mae’r ffermwr defaid yn gyn-enillydd Pencampwriaeth Treialon Cwn Defaid Iwerddon.

 

2.    Nigel Watkins 406

Y Cymro, Nigel Watkins o Langadog, ddaeth yn 2il yn y rownd gyn-derfynol gyda 406 o bwyntiau gyda’i ast 7 blwydd a 6 mis oed Floss. Fe ddaeth Nigel yn ail agos ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2002 gyda Peg;  fe gollodd y brif safle o hanner pwynt yn unig! Mae hefyd wedi ennill Pencampwriaeth Cymru ddwywaith ac wedi dod yn ail ddwywaith.  Roedd yn dathlu’i ben-blwydd ar ddiwrnod rownd derfynol y Treialon a’i ddefaid ef oedd yn cael eu defnyddio yn y digwyddiad.

3.    Meirion Jones 395


Y Cymro lleol o Faesybont ger Llandeilo, ddaeth yn drydydd yn y rownd gyn-derfynol gyda 395 o bwyntiau. Roedd yn cystadlu gyda’i gi Joe. Mae’r contractwr wedi bod yn weithgar iawn gyda’r paratoadau ar gyfer y Treialon yn rhinwedd ei swydd fel  Cadeirydd y Treialon.

4.    Aled Owen 395


Fe ddaeth Aled Owen yn 4ydd yn y rownd gyn-derfynol gyda 395  o bwyntiau. Roedd yn cynrychioli Cymru gyda’i gi Roy.   Mae’r ffermwr o Gorwen yn hen law ar gystadlu mewn treialon. Aled enillodd Dreialon Cwn Defaid y Byd yn y Bala yn 2002.

5.    James McGee 392


Capten tîm Iwerddon eleni, James McGee, ddaeth yn bumed yn y rownd ygn-derfynol gyda 392 o bwyntiau gyda’i ast 5 mlwydd a hanner Becca. Mae James yn dod o Creggan ger Donegal yng Ngweriniaeth Iwerddon ac wedi ennill Pencampwriaeth Iwerddon ddwywaith, yn 2005 a 2007 ac yn ail yn 2006.

6.    Kevin Evans 388


Roedd Kevin Evans o Libanus, Aberhonddu, wedi cyrraedd y gyn-derfynol ddwywaith. Fe ddaeth yn chweched gyda 388 o bwyntiau pan yn cystadlu gyda’i gi 4 blwydd oed Spot. Yr adeiladwr 27 mlwydd oed enillodd Bencampwriaeth y Treialon Rhyngwladol yn Abergele yn gynharach ym mis Medi.


7.    Karin Mattsson 382


Karin Mattsson o Norwy gipiodd y seithfed safle yn y rownd derfynol gyda 382 o bwyntiau gyda’i ast 7 blwydd a 7 mis Sammie. Mae Karin yn wreiddiol o Sweden ond fe gwrddodd ei chariad drwy’r treialon cwn defaid a symud ato i Norwy. Mae yntau hefyd wedi bod yn cystadlu yn y Treialon yn Llandeilo. Mae Karin wedi bod yn rhedeg cwn defaid ers yn 11 mlwydd oed.

8.    Stuart Davidson 372


Stuart Davidson yn cynrychioli’r Alban oedd yn yr 8fed safle yn y rownd gyn-derfynol a hynny gyda 372 o bwyntiau. Roedd yn cystadlu gyda’i gi 5 blwydd a hanner Jim. Mae Jim sy’n 60 mlwydd oed yn hen gyfarwydd â threialu gan ei fod wedi ennill Pencampwriaeth yr Alban 5 gwaith yn y gorffennol a’r Bencampwriaeth Rhyngwladol ddwywaith. Fodd bynnag, dyma’r Treialon y Byd cyntaf iddo gystadlu ynddo.