Ffermio.tv

25. Bobby Dalziel 312 

Daeth Bobby Dalziel o'r Alban yn 25ain gyda'i gi Joe yn y rowndiau cyn derfynol. Mae Bobby yn hyfforddi pobl o fewn y maes ar hyd a lled y byd, ac yn hwyrach eleni mi fydd yn teithio i Sweden i hyfforddi mwy.

26. Seamus Gallagher 308 

Yn 26ain y daeth Seamus Gallagher o Iwerddon gyda'i gi Glen yn y rowndiau cyn derfynol.

27. Sander Hindenes 306 

Daeth Sander Hindenes yn 27ain yn y rowndiau cyn-derfynol. Roedd yn cystadlu gyda'i gi Wisp, ac yn cynrychioli Norwy yn y treialon.


28. Eric Groot 306 

Daeth Eric Groot o'r Iseldiroedd yn 28ain yn y rownd cyn derfynol. Bu'n cystadlu gyda'i gi  naw mlwydd oed a phedair mis, Eryri Nan. Mae Eric wedi bod yn gapten ddwywaith ar dîm y Cyfandir. Eric oedd yr unigolyn i ennill y mwyaf o bwyntiau yn y rowndiau rhagbrofol yn  Nhreialon y Byd yn Ninefwr. Hwn oedd y tro cyntaf i Eric gystadlu yn nhreialon y byd.


29. Hefin Jones 295 

Cipiodd Hefin Jones o Gymru y nawfed safle ar hugain yn y rowndiau cyn derfynol gyda'i gi Sam.


30. Finn Petersen  290 

Finn Petersen o Ddenmarc a ddaeth yn ddegfed ar hugain  yn y rownd cyn-derfynol gyda'i gi Roy.

31. Graham Powell  259 

Daeth Graham Powell o Gymru  yn 31ain yn y rownd cyn-derfynol gyda'i ast Gwen.

32. Vaughan Hughes 237 

Daeth Vaughan Hughes o Gymru'n 32ain yn y rownd gyn-derfynol. Bu'n cystadlu gyda'i gi 6 mlwydd oed ac un mis, Black. Ei uchafbwynt hyd yn hyn o fewn y byd treialon cwn defaid yw cyrraedd Treialon y Byd. Dechreuodd ei ddiddordeb gyda chŵn defaid pan yn 13 oed.


33. Matthias Lebang  231 

O'r Almaen y daw Matthias Lebang. Daeth yn 33ain yn y rowndiau cyn derfynol gyda'i gi Coon.