Ffermio.tv

 9. Gethin Jones 366


Gethin Jones o Langollen yn cynrychioli Cymru ddaeth yn 9fed yn y rownd gyn-derfynol gyda 366 o bwyntiau gyda’i ast 5 mlwydd a 9 mis Eira. Dyma’r Treialon Cwn Defaid y Byd cyntaf i’r ffermwr 22 mlwydd oed gystadlu ynddynt.

 

10. Kevin Evans 364


Dyma’r ail dro i Kevin Evans o Libanus, Aberhonddu, gyrraedd y rownd gyn-derfynol. Fe ddaeth yn 10fed yma gyda 364 o bwyntiau, y tro hwn gyda’i gi 4 blwydd oed Mirk.

 

11. Richard Millichap 359


Roedd y Cymro Richard Millichap yn cystadlu ddwywaith yn y rownd gyn-derfynol. Fe ymddangosodd yma gyda’i ast 8 blwydd a 7 mis oed Taddymoor Cap gan gipio 359 o bwyntiau.  Mae’r ffermwr wedi dod yn ail ddwywaith yn y Treialon Rhyngwladol ac wedi ennill y gystadleuaeth deledu ‘One Man and his Dog’ yn 2001.

12. Jim Wilson 359

Jim Wilson o Seland Newydd ddaeth yn 12fed yn rownd gyn-derfynol y Treialon gyda 359 o bwyntiau gyda’i gi Tweed.

 

13. David John Wood 359

David John Wood o dîm Lloegr orffenodd yn y 13eg safle yn y rownd gyn-derfynol gyda 359 o bwyntiau gyda’i ast Moe.

14. Ged Watson 359

Ged Watson o Loegr ddaeth yn 14eg yn y rownd gyn-derfynol gyda’i gi 7 blwydd oed Eryri Rock. Fe gafodd 359 o bwyntiau. Dyma’r tro cyntaf iddo gystadlu yn Nhreialon Cwn Defaid y Byd. Fe fyddai wedi gallu dewis cystadlu dros Gymru gan ei fod yn treulio 6 mis o’r flwyddyn yn Nyfnaint yn gofalu am gŵn hela a’r 6 mis arall yn Aberhonddu yng Nghymru!

 

15. Ron Snoeck 354

Fe ddaeth Ron Snoeck o’r Iseldiroedd yn ail agos i Aled Owen yn Nhreialon 2008 gyda’i ast 6 blwydd oed Nell. Dim ond un pwynt merit oedd rhyngddo â’r enillydd – 643. Dyma’r trydydd tro iddo gystadlu yn Nhreialon y Byd ac mae wedi ennill Pencampwriaeth Cyfandirol ddwywaith a Phencampwriaeth Rhyngwladol yr Iseldiroedd deirgwaith, dwywaith gyda Nell.

 

16. Tony Ottesen 349


Tro Denmarc i wneud eu marc; fe ddaeth Tony Ottesen yn 16eg yn y rownd gyn-derfynol gyda 349 o bwyntiau. Roedd yn cystadlu gyda’i gi 4 blwydd a hanner, Bob. Mae’r ci yn fab i gi Serge Van Der Zweep oedd yn cynrychioli’r Iseldiroedd yn y Treialon ac ast Aled Owen. Eleni’n barod, mae Tony wedi ennill Pencampwriaeth Scandinafia.